10 Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”
11 Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o'm blaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion.
12 Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi ei ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun.
13 Roedd yn gwisgo mantell oedd wedi ei throchi mewn gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛.
14 Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân.
15 Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).
16 Ar ei fantell wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi ei ysgrifennu:BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.