13 Roedd yn gwisgo mantell oedd wedi ei throchi mewn gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛.
14 Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân.
15 Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).
16 Ar ei fantell wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi ei ysgrifennu:BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.
17 Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi!
18 Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl – dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.”
19 Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin.