18 Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl – dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.”
19 Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin.
20 Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi eu marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan.
21 Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd gan y cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw.