2 Mae ei ddyfarniad e bob amseryn deg ac yn gyfiawn.Mae wedi condemnio'r butain fawra lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol.Mae wedi dial arni hiam ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.”
3 A dyma nhw'n gweiddi eto:“Haleliwia!Mae'r mwg sy'n codi ohoniyn para byth bythoedd.”
4 Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu:“Amen! Haleliwia!”
5 Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw!Pawb sy'n ei wasanaethu,a chi sy'n ei ofni,yn fawr a bach!”
6 Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel:“Haleliwia!Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluogwedi dechrau teyrnasu.
7 Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddua rhoi clod iddo!Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd,ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
8 Mae hi wedi cael gwisg briodaso ddefnydd hardd, disglair a glân.”(Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)