4 Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu:“Amen! Haleliwia!”
5 Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw!Pawb sy'n ei wasanaethu,a chi sy'n ei ofni,yn fawr a bach!”
6 Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel:“Haleliwia!Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluogwedi dechrau teyrnasu.
7 Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddua rhoi clod iddo!Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd,ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
8 Mae hi wedi cael gwisg briodaso ddefnydd hardd, disglair a glân.”(Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)
9 Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi eu bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.”
10 Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”