23 Bydda i'n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy'r Un sy'n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae'n ei haeddu.
24 Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi'n ei ddysgu (sef ‛cyfrinachau dirgel Satan‛), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi.
25 Ond daliwch afael yn beth sydd gynnoch chi nes i mi ddod yn ôl.
26 Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i'r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd –
27 “Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu'n ddarnau fel malu llestri pridd.” Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad.
28 A bydda i'n rhoi Seren y Bore iddyn nhw hefyd.
29 Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’