4 Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Dwyt ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.
5 Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti'n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd.
6 Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae'r Nicolaiaid yn ei wneud.
7 Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’
8 “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna:‘Dyma beth mae'r Cyntaf a'r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw:
9 Dw i'n gwybod dy fod ti'n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti'n gyfoethog go iawn!) Dw i'n gwybod hefyd dy fod ti'n cael dy sarhau gan y rhai sy'n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw!
10 Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi trwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.