1 Yna gwelais angel yn dod i lawr o'r nefoedd, gyda'r allwedd i'r pydew diwaelod, ac roedd cadwyn drom yn ei law.
2 Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‛y diafol‛, ‛Satan‛), a'i rhwymo'n gaeth am fil o flynyddoedd.
3 Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.
4 Wedyn gwelais orseddau, a'r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli'r anghenfil na'i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a'u dwylo. Dyma nhw'n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda'r Meseia am fil o flynyddoedd.