6 Mae'r rhai sydd wedi eu neilltuo ac sy'n cael bod yn rhan o'r atgyfodiad cyntaf yma wedi eu bendithio'n fawr! Does gan beth sy'n cael ei alw'n ‛ail farwolaeth‛ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw'n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a'r Meseia, a byddan nhw'n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd.
7 Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o'i garchar.
8 Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo'r cenhedloedd – Gog a Magog – ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr!
9 Dyma nhw'n martsio o un pen i'r ddaear i'r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o'r nefoedd a'u dinistrio nhw.
10 A dyma'r diafol oedd wedi eu twyllo nhw yn cael ei daflu i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a'r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw'n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd.
11 Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma'r ddaear a'r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth.
12 A dyma fi'n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma'r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud – roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau.