6 Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
7 “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi ei agor, nac agor beth mae wedi ei gloi:
8 Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti – drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i'n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud a heb wadu dy fod ti'n credu ynof fi.
9 Bydda i'n gwneud i'r rhai sy'n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy'r bobl dw i wedi eu caru. Maen nhw'n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw'n dweud celwydd.
10 Am dy fod di wedi bod yn ufudd i'r gorchymyn i ddal ati, bydda i'n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd trwyddo, pan fydd y rhai sy'n perthyn i'r ddaear ar brawf.
11 Edrych! Dw i'n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di.
12 Bydda i'n gwneud pawb sy'n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i'n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy'n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw.