2 Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o'm blaen i roeddwn i'n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni.
3 Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd.
4 Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o'i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw'n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau.
5 Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o'r orsedd, ac o'i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw.
6 Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl.
7 Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan.
8 Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi eu gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un oedd, ac sydd,ac sy'n mynd i ddod.”