5 Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grïo! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.”
6 Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi ei ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi ei anfon allan drwy'r byd i gyd).
7 Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd.
8 Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw).
9 Roedden nhw'n canu cân newydd:“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôlac i dorri y seliau,am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –pobl o bob llwyth ac iaith,hil a chenedl.
10 Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhwa'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
11 Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,