7 Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd.
8 Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw).
9 Roedden nhw'n canu cân newydd:“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôlac i dorri y seliau,am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –pobl o bob llwyth ac iaith,hil a chenedl.
10 Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhwa'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
11 Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,
12 ac yn canu'n uchel:“Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwngi dderbyn grym a chyfoeth,doethineb a nerth,anrhydedd, ysblander a mawl!”
13 Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr – y cwbl i gyd – yn canu:“Clod ac anrhydedd, gogoniant a nertham byth bythoedd,i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd,ac i'r Oen!”