11 Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd.
12 Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed.
13 Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu.
14 Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o'u lle.
15 Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd – brenhinoedd a'u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd – pawb!
16 Roedden nhw'n gweiddi ar y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a'n cuddio ni o olwg yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen!
17 Mae'r diwrnod mawr iddo ddangos mor ddig ydy e wedi dod! Pa obaith sydd i unrhyw un?”