1 Yna ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Roedden nhw'n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden.
2 Wedyn dyma fi'n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i'r tir a'r môr:
3 “Peidiwch gwneud niwed i'r tir na'r môr na'r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy'n ei wasanaethu.”
4 Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda'r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:
5 Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda,deuddeg mil o lwyth Reuben,deuddeg mil o lwyth Gad,