10 Roedden nhw'n gweiddi'n uchel:“Ein Duw sydd wedi'n hachub ni! –yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd,a'r Oen!”
11 Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a'r pedwar creadur byw. A dyma nhw'n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw,
12 gan ddweud:“Amen!Y mawl a'r ysblander,y doethineb a'r diolch,yr anrhydedd a'r gallu a'r nerth –Duw biau'r cwbl oll, am byth bythoedd!Amen!”
13 Yna dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti'n gwybod pwy ydy'r bobl hyn sy'n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?”
14 “Na, ti sy'n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma'r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen.
15 Dyna pam maen nhw yma'n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw'n saff.
16 Fyddan nhw byth eto'n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch.