3 “Peidiwch gwneud niwed i'r tir na'r môr na'r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy'n ei wasanaethu.”
4 Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda'r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:
5 Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda,deuddeg mil o lwyth Reuben,deuddeg mil o lwyth Gad,
6 deuddeg mil o lwyth Aser,deuddeg mil o lwyth Nafftali,deuddeg mil o lwyth Manasse,
7 deuddeg mil o lwyth Simeon,deuddeg mil o lwyth Lefi,deuddeg mil o lwyth Issachar,
8 deuddeg mil o lwyth Sabulon,deuddeg mil o lwyth Joseff,a deuddeg mil o lwyth Benjamin.
9 Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o'm blaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw'n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo.