8 a gwallt hir fel gwallt gwragedd. Roedd ganddyn nhw ddannedd fel dannedd llew.
9 Roedd eu dwyfron fel arfwisg, fel llurig haearn, ac roedd sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o geffylau a cherbydau rhyfel yn rhuthro i frwydr.
10 Roedd ganddyn nhw gynffonnau fel cynffon sgorpion, a'u pigiad yn gallu poenydio pobl am bum mis.
11 Angel y pydew diwaelod ydy eu brenin nhw – Abadon ydy'r enw Hebraeg arno, neu Apolyon (sef ‛Y Dinistrydd‛) yn yr iaith Roeg.
12 Mae'r trychineb cyntaf wedi digwydd; ond edrychwch, mae dau arall yn dod!
13 Dyma'r chweched angel yn canu ei utgorn. Yna clywais lais yn dod o'r lle roedd y cyrn ar bedair cornel yr allor aur sydd o flaen Duw.
14 Dwedodd y llais wrth y chweched angel oedd ag utgorn, “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.”