1 Yr oedd y Brenin Dafydd yn hen, mewn gwth o oedran; ni chynhesai, er pentyrru dillad drosto.
2 A dywedodd ei weision wrtho, “Ceisier i'n harglwydd frenin forwyn ifanc i ofalu am y brenin, i'th ymgeleddu a gorwedd yn dy fynwes, fel y cynheso'r arglwydd frenin.”
3 Yna ceisiwyd geneth deg trwy holl wlad Israel, a chafwyd Abisag y Sunamees a'i dwyn at y brenin.
4 Yr oedd yn eneth brydferth iawn, a bu'n ymgeledd i'r brenin ac yn gofalu amdano; ond ni chafodd y brenin gyfathrach â hi.
5 Ymddyrchafodd Adoneia fab Haggith gan ddweud, “Yr wyf fi am fod yn frenin.” A darparodd iddo'i hun gerbyd a marchogion, a hanner cant o wŷr i redeg o'i flaen.
6 Nid oedd ei dad wedi gomedd dim iddo erioed na dweud, “Pam y gwnaethost fel hyn?”
7 Yr oedd yntau hefyd yn hynod deg ei bryd; a ganed ef ar ôl Absalom. Bu'n trafod gyda Joab fab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad; a rhoesant eu cefnogaeth i Adoneia.