1 Brenhinoedd 9 BCN

Duw'n Ymddangos yr Eildro i Solomon

1 Wedi i Solomon orffen adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin a'r cwbl a ddymunai ei wneud,

2 fe ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo'r eildro, fel yr oedd wedi ymddangos iddo yn Gibeon.

3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Clywais dy weddi a'th ddeisyfiad a wnaethost ger fy mron; cysegrais y tŷ hwn a godaist, a gosod f'enw yno am byth, a bydd fy llygaid a'm calon tuag yno hyd byth.

4 Ac os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, yn gywir ac uniawn, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,

5 yna sicrhaf dy orsedd frenhinol dros Israel am byth, fel y dywedais wrth dy dad Dafydd, ‘Gofalaf na fyddi heb etifedd ar orsedd Israel.’

6 Ond os byddwch chwi a'ch plant yn gwrthgilio oddi wrthyf ac yn peidio â chadw fy ngorchmynion a'm hordinhadau, a osodais i chwi, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,

7 yna difodaf Israel o'r tir a rois iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a bydd Israel yn mynd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

8 Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn chwibanu mewn syndod, ac yn dweud, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?’

9 A dywedir, ‘Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw, a ddaeth â'u hynafiaid o'r Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg yma arnynt.’ ”

Y Cytundeb rhwng Solomon a Hiram

10 Ar derfyn ugain mlynedd, wedi i Solomon adeiladu'r ddau dŷ, sef tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, fe roes y brenin ugain tref yng Ngalilea i Hiram,

11 am fod Hiram brenin Tyrus wedi cyflenwi coed cedrwydd a ffynidwydd ac aur, gymaint ag a ddymunai, i Solomon.

12 Ond pan ddaeth Hiram o Tyrus i edrych y trefi a roes Solomon iddo, nid oeddent wrth ei fodd,

13 a dywedodd, “Beth yw'r trefi hyn yr wyt wedi eu rhoi imi, fy mrawd?” A gelwir hwy Gwlad Cabwl hyd heddiw.

14 Chwe ugain talent o aur a anfonodd Hiram at y brenin.

Gweithgarwch Pellach Solomon

15 Dyma gyfrif y llafur gorfod a bennodd y Brenin Solomon er mwyn adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun, a'r Milo, a hefyd mur Jerwsalem a Hasor, Megido a Geser.

16 Yr oedd Pharo brenin yr Aifft wedi dod a chipio Geser, a'i llosgi, a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yn y ddinas, ac yna wedi ei rhoi'n anrheg briodas i'w ferch, gwraig Solomon;

17 ac ailadeiladodd Solomon Geser. Hefyd adeiladodd Beth-horon Isaf,

18 Baalath a Tamar yn y diffeithwch yn nhir Jwda,

19 a'r holl ddinasoedd stôr oedd gan Solomon, a'r dinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall a ddymunai Solomon ei adeiladu, p'run ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.

20 Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.

21 Yr oedd disgynyddion y rhain yn parhau yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa, ac arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.

22 Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas; hwy oedd ei filwyr, ei swyddogion, ei gadfridogion a'i gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,

23 a hwy hefyd oedd prif arolygwyr gwaith Solomon—pum cant a hanner ohonynt, yn rheoli'r gweithwyr.

24 Yr adeg honno ymfudodd merch Pharo o Ddinas Dafydd i fyny i'r tŷ a gododd Solomon iddi; wedyn fe adeiladodd ef y Milo.

25 Byddai Solomon yn offrymu poethoffrymau a heddoffrymau dair gwaith yn y flwyddyn ar yr allor a gododd i'r ARGLWYDD, ac at hynny yn arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD. Felly y gorffennodd y tŷ.

26 Creodd y Brenin Solomon lynges yn Esion-geber sydd gerllaw Elath ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom;

27 ac anfonodd Hiram longwyr profiadol o blith ei weision yn y llongau gyda gweision Solomon.

28 Aethant i Offir a dod â phedwar cant ac ugain o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22