1 Brenhinoedd 6 BCN

1 Yn y flwyddyn pedwar cant wyth deg ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad ar Israel, ym mis Sif, yr ail fis, dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.

2 Yr oedd y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD yn drigain cufydd ei hyd, yn ugain cufydd ei led ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder.

3 Yr oedd y cyntedd o flaen corff y tŷ yn ugain cufydd ei hyd, gyda lled y tŷ, a deg cufydd o led o flaen y tŷ.

4 A gwnaeth ffenestri i'r tŷ yn goleuo at i lawr trwy ddelltwaith.

5 Cododd adeilad yn erbyn mur y tŷ o gylch corff y tŷ a'r cysegr mewnol; a gwnaeth fwtresi o amgylch.

6 Yr oedd y celloedd isaf yn bum cufydd o led, y rhai canol yn chwe chufydd, a'r drydedd res yn saith gufydd, oherwydd gwnaeth rabadau oddi allan i'r tŷ o amgylch fel na rwymid y trawstiau ym muriau'r tŷ.

7 Adeiladwyd y tŷ o gerrig wedi eu cyweirio yn y chwarel, fel nad oedd sŵn morthwyl na neddau nac unrhyw erfyn haearn i'w glywed yn y tŷ wrth ei adeiladu.

8 Ar ochr dde'r tŷ yr oedd y mynediad i'r llawr isaf, gyda grisiau tro yn esgyn i'r llawr canol ac o'r un canol i'r trydydd.

9 Wedi iddo orffen ei adeiladu, coediodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.

10 Cododd adeilad pum cufydd ei uchder yn erbyn yr holl dŷ, a'i gydio wrth y tŷ â chedrwydd.

11 Daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddweud,

12 “Ynglŷn â'r tŷ hwn yr wyt yn ei adeiladu, os bydd iti rodio yn fy neddfau a chyflawni fy marnedigaethau a chadw fy holl orchmynion a'u dilyn, yna cyflawnaf iti yr addewid a wneuthum i'th dad Dafydd;

13 a thrigaf ymysg plant Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.”

Tu Mewn y Deml

14 Adeiladodd Solomon y tŷ a'i orffen;

15 a byrddiodd barwydydd y tŷ ag ystyllod cedrwydd, a'u coedio o'r llawr hyd dulathau'r nenfwd, a llorio'r tŷ â phlanciau ffynidwydd.

16 Caeodd ugain cufydd yn nhalcen y tŷ ag ystyllod cedrwydd, o'r llawr hyd y tulathau, a'i neilltuo iddo'i hun yn gysegr mewnol, i fod yn gysegr sancteiddiaf.

17 Yr oedd y tŷ, sef corff y deml o flaen y cysegr mewnol, yn ddeugain cufydd o hyd.

18 Yr oedd y cedrwydd y tu mewn i'r tŷ wedi eu cerfio'n gnapiau ac yn flodau agored; yr oedd yn gedrwydd i gyd, heb garreg yn y golwg.

19 Darparodd y cysegr mewnol yn y man nesaf i mewn yn y tŷ i dderbyn arch cyfamod yr ARGLWYDD.

20 Yr oedd y cysegr mewnol yn ugain cufydd o hyd, ugain o led ac ugain o uchder, a goreurodd hi ag aur pur; gwnaeth hefyd allor gedrwydd.

21 Goreurodd Solomon y tŷ oddi mewn ag aur pur, a gosododd gadwyni aur ar draws, o flaen y cysegr mewnol a oreurwyd.

22 Gwisgodd yr holl dŷ o'i gwr ag aur, a'r allor i gyd, a oedd yn perthyn i'r cysegr mewnol.

23 Yn y cysegr mewnol gwnaeth ddau gerwb, deg cufydd o uchder, o bren olewydd.

24 Yr oedd dwy adain y naill gerwb yn bum cufydd yr un, sef deg cufydd o flaen un adain i flaen y llall.

25 Yr oedd yr ail gerwb yn ddeg cufydd hefyd, gyda'r un mesur a'r un ffurf i'r ddau.

26 Deg cufydd oedd uchder y naill a'r llall.

27 Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd â'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.

28 Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid.

29 Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol o amgylch â lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan;

30 a goreurodd lawr y cysegr mewnol oddi mewn ac oddi allan.

31 Gwnaeth ddorau o goed olewydd i fynedfa'r cysegr mewnol, a'r capan a'r cilbyst yn bumochrog.

32 Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored ar y ddwy ddôr o goed olewydd; wedyn goreurodd hwy, a rhedeg aur dros y cerwbiaid a'r palmwydd.

33 Yn yr un modd gwnaeth gilbyst sgwâr o goed palmwydd i fynedfa corff y deml.

34 Yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd, y naill a'r llall yn ddeuddarn yn plygu ar ei gilydd.

35 Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored arnynt, a'u goreuro'n gytbwys dros y cerfiad.

36 Adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thri chwrs o gerrig nadd ac â chwrs o drawstiau cedrwydd.

37 Gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD ym mis Sif o'r bedwaredd flwyddyn;

38 a gorffennwyd y tŷ yn ôl holl ofynion y cynllun ym mis Bul (dyna'r wythfed mis) o'r unfed flwyddyn ar ddeg. Felly saith mlynedd y bu'n ei adeiladu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22