1 Brenhinoedd 10 BCN

Ymweliad Brenhines Sheba

1 Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi â chwestiynau caled.

2 Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,

3 ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi.

4 A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd,

5 ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.

6 Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb.

7 Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais.

8 Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb.

9 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar orseddfainc Israel. Am i'r ARGLWYDD garu Israel am byth, y mae wedi dy roi di'n frenin, i weinyddu barn a chyfiawnder.”

10 Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni chafwyd byth wedyn gymaint o beraroglau ag a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.

11 Byddai llynges Hiram yn dod ag aur o Offir; byddai hefyd yn cludo o Offir lawer iawn o goed almug a gemau.

12 Gwnaeth y brenin fracedau i dŷ'r ARGLWYDD ac i dŷ'r brenin o'r coed almug, a hefyd delynau a nablau i'r cantorion. Ni ddaeth ac ni welwyd cystal coed almug hyd heddiw.

13 Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwenychodd, yn ychwaneg at yr hyn a roddodd iddi o'i haelioni brenhinol. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.

Cyfoeth y Brenin Solomon

14 Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,

15 heblaw yr hyn a gâi gan y marchnadwyr ac o enillion masnachwyr, ac oddi wrth holl frenhinoedd Arabia a'r rheolwyr talaith.

16 Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chant o siclau aur ym mhob tarian.

17 Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un; a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon.

18 Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro â'r aur coethaf.

19 Yr oedd chwe gris i'r orseddfainc, pen ych ar gefn yr orseddfainc, dwy fraich o boptu i'r sedd, a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.

20 Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris.

21 Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas. Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tŷ Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.

22 Yr oedd gan y brenin ar y môr longau Tarsis gyda llynges Hiram, ac unwaith bob tair blynedd fe ddôi llongau Tarsis â'u llwyth o aur, arian, ifori, epaod a pheunod.

23 Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

24 Ac yr oedd y byd i gyd yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roddodd Duw yn ei galon.

25 Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion—llestri arian ac aur, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.

26 Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.

27 Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.

28 O'r Aifft a Cŵe y dôi ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cŵe am bris penodedig.

29 Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22