13 Dos i mewn ar unwaith at y Brenin Dafydd a dywed wrtho, ‘Oni thyngaist, f'arglwydd frenin, wrth dy lawforwyn a dweud, “Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd”? Pam gan hynny y mae Adoneia yn frenin?’
14 Tra byddi yno'n siarad â'r brenin, dof finnau i mewn i gadarnhau dy eiriau.”
15 Aeth Bathseba i mewn at y brenin i'r siambr. Yr oedd y brenin yn hen iawn, ac Abisag y Sunamees yn gofalu amdano.
16 Ymostyngodd Bathseba ac ymgrymu i'r brenin, a dywedodd y brenin, “Beth sy'n bod?”
17 Atebodd hithau, “F'arglwydd, ti dy hun a dyngodd trwy'r ARGLWYDD dy Dduw wrth dy lawforwyn: ‘Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd.’
18 Ond yn awr, y mae Adoneia'n frenin, a thithau, f'arglwydd frenin, heb wybod.
19 Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.