16 Ymostyngodd Bathseba ac ymgrymu i'r brenin, a dywedodd y brenin, “Beth sy'n bod?”
17 Atebodd hithau, “F'arglwydd, ti dy hun a dyngodd trwy'r ARGLWYDD dy Dduw wrth dy lawforwyn: ‘Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd.’
18 Ond yn awr, y mae Adoneia'n frenin, a thithau, f'arglwydd frenin, heb wybod.
19 Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.
20 Yn awr y mae llygaid holl Israel arnat ti, f'arglwydd frenin, fel y mynegi iddynt pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl.
21 Onid e, pan fydd f'arglwydd frenin farw, cyfrifir fi a'm mab yn droseddwyr.”
22 Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, cyrhaeddodd y proffwyd Nathan,