18 Ond yn awr, y mae Adoneia'n frenin, a thithau, f'arglwydd frenin, heb wybod.
19 Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.
20 Yn awr y mae llygaid holl Israel arnat ti, f'arglwydd frenin, fel y mynegi iddynt pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl.
21 Onid e, pan fydd f'arglwydd frenin farw, cyfrifir fi a'm mab yn droseddwyr.”
22 Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, cyrhaeddodd y proffwyd Nathan,
23 a hysbyswyd y brenin: “Dyma Nathan y proffwyd.” Daeth yntau gerbron y brenin, ac ymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr.
24 A dywedodd Nathan, “F'arglwydd frenin, a ddywedaist ti mai Adoneia sydd i deyrnasu ar dy ôl, ac i eistedd ar dy orsedd?