20 Yn awr y mae llygaid holl Israel arnat ti, f'arglwydd frenin, fel y mynegi iddynt pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl.
21 Onid e, pan fydd f'arglwydd frenin farw, cyfrifir fi a'm mab yn droseddwyr.”
22 Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, cyrhaeddodd y proffwyd Nathan,
23 a hysbyswyd y brenin: “Dyma Nathan y proffwyd.” Daeth yntau gerbron y brenin, ac ymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr.
24 A dywedodd Nathan, “F'arglwydd frenin, a ddywedaist ti mai Adoneia sydd i deyrnasu ar dy ôl, ac i eistedd ar dy orsedd?
25 Oblegid aeth i lawr heddiw, a lladdodd lawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd i'w wledd holl dylwyth y brenin, tywysog y llu ac Abiathar yr offeiriad. Y maent yn bwyta ac yn yfed yn ei ŵydd, ac yn ei gyfarch, ‘Byw fyddo'r brenin Adoneia!’
26 Ond nid yw wedi fy ngwahodd i, sy'n was i ti, na Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Solomon dy was.