26 Ond nid yw wedi fy ngwahodd i, sy'n was i ti, na Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Solomon dy was.
27 A wnaed y peth hwn trwy f'arglwydd frenin, heb i ti hysbysu dy was pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl?”
28 Atebodd y Brenin Dafydd, “Galwch Bathseba.” Daeth hithau i ŵydd y brenin a sefyll o'i flaen.
29 Yna tyngodd y brenin a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a waredodd fy mywyd o bob cyfyngder,
30 yn ddiau fel y tyngais i ti trwy'r ARGLWYDD, Duw Israel, mai Solomon dy fab a deyrnasai ar fy ôl, ac eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle, felly yn ddiau y gwnaf y dydd hwn.”
31 Ymostyngodd Bathseba â'i hwyneb i'r llawr ac ymgrymu i'r brenin, a dweud, “Boed i'm harglwydd, y Brenin Dafydd, fyw byth!”
32 Dywedodd y Brenin Dafydd, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada.”