3 Yna ceisiwyd geneth deg trwy holl wlad Israel, a chafwyd Abisag y Sunamees a'i dwyn at y brenin.
4 Yr oedd yn eneth brydferth iawn, a bu'n ymgeledd i'r brenin ac yn gofalu amdano; ond ni chafodd y brenin gyfathrach â hi.
5 Ymddyrchafodd Adoneia fab Haggith gan ddweud, “Yr wyf fi am fod yn frenin.” A darparodd iddo'i hun gerbyd a marchogion, a hanner cant o wŷr i redeg o'i flaen.
6 Nid oedd ei dad wedi gomedd dim iddo erioed na dweud, “Pam y gwnaethost fel hyn?”
7 Yr oedd yntau hefyd yn hynod deg ei bryd; a ganed ef ar ôl Absalom. Bu'n trafod gyda Joab fab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad; a rhoesant eu cefnogaeth i Adoneia.
8 Ond nid oedd Sadoc yr offeiriad, Benaia fab Jehoiada, Nathan y proffwyd, Simei, Rei, na'r cedyrn oedd gan Ddafydd, o blaid Adoneia.
9 Yna lladdodd Adoneia ddefaid a gwartheg a phasgedigion wrth faen Soheleth sydd gerllaw En-rogel; a gwahoddodd i'w wledd ei holl frodyr, meibion y brenin, a holl wŷr Jwda a oedd yn weision i'r brenin.