35 Dewch chwithau i fyny ar ei ôl, a boed iddo eistedd ar fy ngorsedd; ef sydd i deyrnasu yn fy lle, a gorchmynnaf iddo fod yn dywysog ar Israel a Jwda.”
36 Yna atebodd Benaia fab Jehoiada y brenin, a dweud, “Amen! Felly hefyd y dywedo'r ARGLWYDD, Duw fy arglwydd frenin.
37 Fel y bu'r ARGLWYDD gyda'm harglwydd frenin, felly bydded gyda Solomon; a gwnaed ei orsedd yn uwch na gorsedd f'arglwydd, y Brenin Dafydd.”
38 Aeth Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid, i lawr, gan beri i Solomon farchogaeth ar fules y Brenin Dafydd, a dod ag ef i Gihon.
39 Cymerodd Sadoc yr offeiriad y corn olew o'r babell, ac eneiniodd Solomon; yna seiniwyd yr utgorn, a dywedodd yr holl bobl, “Byw fyddo'r brenin Solomon!”
40 Aeth yr holl bobl i fyny ar ei ôl dan ganu ffliwtiau a llawenhau'n orfoleddus, nes hollti'r ddaear â'u sŵn.
41 Tra oeddent yn gorffen bwyta, clywodd Adoneia hyn, a'r holl wahoddedigion oedd gydag ef. A phan glywodd Joab sain yr utgorn dywedodd, “Pam y mae sŵn cynnwrf yn y ddinas?”