45 Ac eneiniodd Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yn frenin yn Gihon, a daethant i fyny oddi yno dan lawenhau, a chynhyrfodd y ddinas. Dyna'r twrf a glywsoch.
46 A mwy na hynny, y mae Solomon yn eistedd ar orsedd y frenhiniaeth;
47 a daeth gweision y brenin ymlaen i gyfarch ein harglwydd, y Brenin Dafydd, a dweud, ‘Gwneled dy Dduw enw Solomon yn well na'th enw di, a dyrchafed ei orsedd ef yn uwch na'th orsedd di!’ Ac ymgrymodd y brenin ar ei wely.
48 Fel hyn y dywedodd y brenin: ‘Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a roes heddiw un i eistedd ar fy ngorsedd, a'm llygaid innau'n gweld hynny.’ ”
49 Cododd holl wahoddedigion Adoneia mewn dychryn a mynd bob un i'w ffordd.
50 A chan fod Adoneia'n ofni rhag Solomon, cododd ac aeth i ymaflyd yng nghyrn yr allor.
51 Mynegwyd i Solomon, “Edrych, y mae Adoneia'n ofni'r Brenin Solomon; ymaflodd yng nghyrn yr allor a dweud, ‘Tynged y Brenin Solomon wrthyf yn awr na fydd iddo ladd ei was â'r cledd.’ ”