12 Eto, er mwyn dy dad Dafydd, nid yn dy oes di y gwnaf hyn chwaith, ond oddi wrth dy fab y rhwygaf hi.
13 Ond nid wyf am rwygo ymaith y deyrnas i gyd; gadawaf un llwyth i'th fab, er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, a ddewisais.”
14 A chododd yr ARGLWYDD Hadad yr Edomiad o deulu brenhinol Edom yn wrthwynebydd i Solomon.
15 Yr oedd Dafydd wedi difa Edom pan aeth Joab capten y llu draw i gladdu'r lladdedigion, ac yr oedd wedi lladd pob gwryw yn Edom.
16 Arhosodd Joab a'r holl Israeliaid yno am chwe mis, nes difa pob gwryw yn Edom.
17 Ond yr oedd Hadad, a oedd yn llanc ifanc ar y pryd, wedi dianc i lawr i'r Aifft gyda'r rhai o'r Edomiaid a fu'n weision i'w dad.
18 Wedi gadael Midian a chyrraedd Paran, cymerasant rai gyda hwy o Paran a dod i'r Aifft at Pharo brenin yr Aifft; rhoddodd yntau lety i Hadad, a threfnu i'w gynnal a rhoi tir iddo.