24 ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich brodyr yr Israeliaid; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.’ ” A gwrandawsant ar air yr ARGLWYDD, a dychwelyd adref yn ôl gair yr ARGLWYDD.
25 Adeiladodd Jeroboam Sichem ym mynydd-dir Effraim i fyw yno, ond wedyn gadawodd y fan ac adeiladu Penuel.
26 Meddyliodd Jeroboam, “Yn awr, efallai y dychwel y frenhiniaeth at linach Dafydd.
27 Os â'r bobl hyn i offrymu yn nhŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna fe fydd calon y bobl hyn yn troi'n ôl at eu meistr, Rehoboam brenin Jwda; fe'm lladdant i a dychwelyd at Rehoboam brenin Jwda.”
28 Felly cymerodd y brenin gyngor a gwneud dau lo aur, a dweud wrth y bobl, “Y mae'n ormod i chwi fynd i fyny i Jerwsalem; dyma dy dduwiau, Israel, y rhai a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft.”
29 Gosodwyd un eilun i fyny ym Methel, a rhoi'r llall yn Dan.
30 Ond bu hyn yn achos pechu, oherwydd yr oedd y bobl yn mynd i addoli'r naill i Fethel a'r llall i Dan.