9 Gofynnodd iddynt hwy, “Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, ‘Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom’?”
10 Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, “Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt: ‘Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom.’ Ie, dyma a ddywedi wrthynt: ‘Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!
11 Mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!’ ”
12 Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, “Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau”,
13 atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau.
14 Dywedodd wrthynt, “Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!”
15 Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan yr ARGLWYDD, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarodd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.