16 Bydd yn gwrthod Israel, o achos y pechod a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu.”
17 Aeth gwraig Jeroboam yn ôl i Tirsa, ac fel yr oedd hi'n cyrraedd trothwy'r tŷ, bu farw'r llanc.
18 Daeth holl Israel i'w gladdu ac i alaru ar ei ôl, fel y llefarodd yr ARGLWYDD drwy ei was, y proffwyd Aheia.
19 Y mae gweddill hanes Jeroboam, ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
20 Dwy flynedd ar hugain oedd hyd y cyfnod y bu Jeroboam yn frenin; yna bu farw, a daeth ei fab Nadab yn frenin yn ei le.
21 Daeth Rehoboam fab Solomon yn frenin ar Jwda; un a deugain oed oedd ef pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.
22 Gwnaeth Jwda ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio'n fwy â'u pechodau nag a wnaeth eu hynafiaid.