25 Ym mhumed flwyddyn y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem,
26 a dwyn holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a dwyn hefyd yr holl darianau aur a wnaeth Solomon.
27 Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tŷ'r brenin.
28 Bob tro yr âi'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, gwisgai'r gwarchodlu hwy ac yna'u dychwelyd i'r wardws.
29 Ac onid yw gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
30 Bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.
31 Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef gyda hwy yn Ninas Dafydd. Naama yr Ammones oedd enw ei fam, a'i fab Abeiam a ddaeth yn frenin yn ei le.