9 Yn hytrach gwnaethost fwy o ddrygioni na phawb o'th flaen. Buost yn gwneud duwiau estron a delwau tawdd er mwyn fy nghythruddo, a bwriaist fi heibio.
10 Felly dygaf ddrwg ar deulu Jeroboam, a difa pob gwryw, caeth neu rydd, sy'n perthyn iddo yn Israel; ysaf yn llwyr deulu Jeroboam, fel un yn llosgi gleuad, nes y bydd wedi llwyr ddarfod.
11 Bydd cŵn yn bwyta'r rhai o deulu Jeroboam a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad. Yr ARGLWYDD a'i dywedodd.’
12 “Dos dithau adref. Pan fyddi'n cyrraedd y dref, bydd farw'r bachgen.
13 Bydd holl Israel yn galaru amdano ac yn dod i'w angladd, oherwydd hwn yn unig o deulu Jeroboam a gaiff feddrod, gan mai ynddo ef o blith teulu Jeroboam y cafodd ARGLWYDD Dduw Israel ryw gymaint o ddaioni.
14 Fe gyfyd yr ARGLWYDD iddo'i hun frenin ar Israel a fydd yn difodi tylwyth Jeroboam y dydd hwn—yr awr hon, ond odid.
15 A bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel nes y bydd yn siglo fel brwynen mewn llif, ac yn diwreiddio Israel o'r tir da hwn a roddodd i'w hynafiaid, a'u gwasgaru y tu hwnt i'r Ewffrates, am iddynt lunio'u delwau o Asera a chythruddo'r ARGLWYDD.