1 Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn ôl fy ngair i.”
2 Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato:
3 “Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen.
4 Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.”
5 Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.