10 Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, “Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed.”
11 Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei hôl, “A thyrd â thamaid o fara imi yn dy law.”
12 Ond meddai hi, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stên; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi.”
13 Dywedodd Elias wrthi, “Paid ag ofni; dos a gwna fel y dywedaist, ond gwna ohono yn gyntaf deisen fach i mi, a thyrd â hi ataf, a pharatoi i ti dy hun a'th fab wedyn.
14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Nid â'r celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych hyd y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi glaw ar wyneb y tir.’ ”
15 Gwnaeth hithau yn ôl gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser.
16 Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.