15 Gwnaeth hithau yn ôl gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser.
16 Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.
17 Ymhen ysbaid clafychodd mab y wraig oedd biau'r tŷ; aeth yn ddifrifol wael, fel nad oedd anadl ar ôl ynddo.
18 A dywedodd hi wrth Elias, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, ŵr Duw? Ai dod ataf a wnaethost i dynnu sylw at fy nghamwedd, a lladd fy mab?”
19 Meddai yntau wrthi, “Rho dy fab i mi.” Cymerodd ef o'i mynwes a'i gludo i'r llofft lle'r oedd yn byw, a'i osod i orwedd ar ei wely.
20 Galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, a wyt yn dwyn drwg hyd yn oed ar y weddw y cefais lety ganddi, ac yn lladd ei mab?”
21 Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn ôl iddo.”