2 Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato:
3 “Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen.
4 Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.”
5 Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.
6 Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.
7 Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad,
8 a daeth gair yr ARGLWYDD ato: