21 Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn ôl iddo.”
22 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd.
23 Cymerodd Elias y bachgen, a mynd ag ef i lawr o'r llofft i mewn i'r tŷ a'i roi i'w fam, a dweud, “Edrych, y mae dy fab yn fyw.”
24 Dywedodd y wraig wrth Elias, “Gwn yn awr dy fod yn ŵr Duw, a bod gair yr ARGLWYDD yn wir yn dy enau.”