4 Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.”
5 Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.
6 Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.
7 Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad,
8 a daeth gair yr ARGLWYDD ato:
9 “Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.”
10 Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, “Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed.”