17 Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, “Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?”
18 Atebodd yntau, “Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim.
19 Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal.”
20 Anfonodd Ahab at yr holl Israeliaid, a chasglu'r proffwydi i Fynydd Carmel.
21 Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.
22 Yna meddai Elias wrth y bobl, “Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner.
23 Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano.