22 Yna meddai Elias wrth y bobl, “Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner.
23 Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano.
24 Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw.”
25 Atebodd yr holl bobl, “Cynllun da!” Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, “Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio â rhoi tân.”
26 Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, “Baal, ateb ni!” Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor.
27 Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.”
28 Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt.