26 Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, “Baal, ateb ni!” Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor.
27 Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.”
28 Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt.
29 Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
30 Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio;
31 a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”).
32 Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.