29 Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
30 Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio;
31 a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”).
32 Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.
33 Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed,
34 ac yna meddai, “Llanwch bedwar llestr â dŵr, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed.” Yna dywedodd, “Gwnewch eilwaith”; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, “Gwnewch y drydedd waith”; a gwnaethant y trydydd tro,
35 nes bod y dŵr yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos.