11 Deugain mlynedd oedd y cyfnod y teyrnasodd Dafydd ar Israel; teyrnasodd yn Hebron am saith mlynedd, ac yn Jerwsalem am dri deg a thair o flynyddoedd.
12 Yna eisteddodd Solomon ar orsedd ei dad Dafydd, a sicrhawyd ei frenhiniaeth yn gadarn.
13 Daeth Adoneia fab Haggith at Bathseba mam Solomon, a dywedodd hi, “Ai mewn heddwch yr wyt yn dod?” Atebodd yntau, “Mewn heddwch.
14 Hoffwn air â thi.” Atebodd hithau, “Llefara.”
15 Yna dywedodd ef, “Fe wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel roi eu bryd ar fy ngwneud yn frenin; ond daeth tro ar fyd, ac aeth y frenhiniaeth i'm brawd; trwy'r ARGLWYDD y cafodd hi.
16 Yn awr y mae gennyf un cais i'w ofyn gennyt; paid â'm gwrthod.” Dywedodd hithau, “Gofyn.”
17 Ac meddai ef, “Gwna gais drosof at y Brenin Solomon am iddo roi Abisag y Sunamees yn wraig imi, oherwydd ni fydd yn dy wrthod di.”