23 A thyngodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os nad ar draul ei einioes ei hun y llefarodd Adoneia fel hyn.
24 Yn awr, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm sicrhaodd ac a'm gosododd ar orsedd Dafydd fy nhad, ac a roes imi dylwyth yn ôl ei air, yn ddiau heddiw fe roir Adoneia i farwolaeth.”
25 Yna gwysiodd y Brenin Solomon Benaia fab Jehoiada; ymosododd yntau ar Adoneia, a bu farw.
26 Ac wrth Abiathar yr archoffeiriad dywedodd y brenin, “Dos i Anathoth, i'th fro dy hun, oherwydd gŵr yn haeddu marw wyt ti, ond ni laddaf mohonot y tro hwn, am iti gludo arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am iti ddioddef gyda'm tad yn ei holl gystuddiau.”
27 Yna diswyddodd Solomon Abiathar o fod yn archoffeiriad i'r ARGLWYDD, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a lefarodd yn erbyn tylwyth Eli yn Seilo.
28 Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia—er na chefnogodd Absalom—fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.
29 Dywedwyd wrth y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi i babell yr ARGLWYDD a'i fod wrth yr allor. Yna anfonwyd Benaia fab Jehoiada gan Solomon â'r gorchymyn, “Dos ac ymosod arno.”