30 Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywedodd y brenin, ‘Tyrd allan’.” Atebodd yntau, “Na, yma y byddaf farw.”
31 Pan ddygodd Benaia adroddiad yn ôl at y brenin, a mynegi beth oedd ateb Joab, dywedodd y brenin wrtho, “Gwna fel y dywedodd; lladd ef, a'i gladdu, a symud oddi wrthyf ac oddi wrth fy nhylwyth euogrwydd y gwaed a dywalltodd Joab yn ddiachos.
32 Fe ddial yr ARGLWYDD y gwaed arno ef am iddo ymosod, heb i'm tad Dafydd wybod, ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, a'u lladd â'r cleddyf, sef Abner fab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa fab Jether, tywysog llu Jwda.
33 Erys eu gwaed hwy ar ben Joab a'i ddisgynyddion yn dragywydd; ond i Ddafydd a'i ddisgynyddion a'i deulu a'i orsedd fe fydd llwydd oddi wrth yr ARGLWYDD yn dragywydd.”
34 Aeth Benaia fab Jehoiada i fyny, ac ymosod ar Joab a'i ladd; a chladdwyd ef yn ei gartref yn yr anialwch.
35 Gosododd y brenin Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.
36 Yna gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, “Adeilada dŷ yn Jerwsalem a thrig yno. Paid â symud oddi yno i unman,