39 Trigodd Simei am gyfnod yn Jerwsalem; ond ymhen tair blynedd, ffodd dau o gaethweision Simei at Achis fab Maacha, brenin Gath.
40 Hysbyswyd Simei fod ei weision yn Gath, a chyfrwyodd ei asyn a mynd i Gath at Achis i geisio'i weision; ac aeth a dod â'i weision yn ôl o Gath.
41 Pan hysbyswyd Solomon i Simei fynd o Jerwsalem i Gath a dychwelyd,
42 gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, “Oni thynghedais di yn enw'r ARGLWYDD? Oni rybuddiais di y byddit farw'n gelain y dydd yr ait allan i unrhyw fan? A dywedaist wrthyf, ‘Purion! Fe ufuddhaf.’
43 Pam na chedwaist lw yr ARGLWYDD a'r gorchymyn a roddais i ti?”
44 Yna dywedodd y brenin wrth Simei, “Fe wyddost yn dy galon yr holl ddrygioni a wnaethost i'm tad Dafydd.
45 Fe ddial yr ARGLWYDD dy ddrygioni arnat, ond bendithir y Brenin Solomon, a sicrheir gorsedd Dafydd gerbron yr ARGLWYDD yn dragywydd.”